Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 9 Hydref 2017
Amser:
14.01 -
16.46
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4349
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Vikki Howells AC Rhianon Passmore AC Lee Waters AC |
Tystion: |
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Peter Curran, Sports Wales Suzy Davies AC, Comisiynydd Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid Sarah Powell, Chwaraeon Cymru |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Anthony Barrett - Archwilydd Dosbarth Gogledd Cymru Matthew Coe Steve Wyndham |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Helen Jones (Ymchwilydd) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel HTML (999KB)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.2 O ran y llythyr ar arlwyo mewn ysbytai a maeth cleifion, cytunodd y Pwyllgor y byddai angen eglurhad pellach, yn enwedig ar yr amserlen ar gyfer gweithredu'r mentrau. Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a chytunwyd i drefnu sesiwn dystiolaeth cyn diwedd y tymor.
3.1 Nododd y Cadeirydd gydymdeimlad y Pwyllgor â Chwaraeon Cymru yn dilyn y ddamwain angheuol yn cynnwys Paul Garrett.
3.2 Bu'r Aelodau'n craffu ar Sarah Powell, Prif Weithredwr a Peter Curran, Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol Chwaraeon Cymru ar yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2016-17.
3.3 Cytunodd Sarah Powell i anfon rhagor o fanylion ar faint o fuddsoddiad y mae'r Rhaglenni 5 x 60 a Champau'r Ddraig wedi ei dderbyn ynghyd â'r dull o werthuso effeithiolrwydd y rhaglenni hyn ynghyd â'r set olaf o ddata gwerthuso.
4.1 Bu'r Aelodau'n craffu ar Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad; Suzy Davies AC, Comisiynydd y Gyllideb a Llywodraethu a Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2016-17.
4.2 Cytunodd Manon Antoniazzi i anfon copi o'r Adroddiad Adolygu Capasiti i'r Pwyllgor, y disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
7.1 Trafododd yr Aelodau y posibilrwydd o gymryd rhan yn yr wythnos Senedd@Delyn ond yn anffodus, oherwydd bod gan y mwyafrif ymrwymiadau blaenorol, ni fydd y Pwyllgor yn gallu cymryd rhan.